top of page
WPC_Cymru_Logo.png
1O8A0268.JPG

Ffatri Jam

Ffatri Jam

Mae Ffatri Jam yn fand roc caled o Gaernarfon ac Ynys Môn, Gogledd Cymru. Ar ôl ffurfio yn 2022, cafwyd eu henwi fel un o Seiniau Gorau 2022 gan BBC Introducing yng Nghymru, ac ers hynny mae eu cerddoriaeth wedi cael ei darlledu ar orsafoedd radio ledled y byd. Mae eu sain pwerus wedi ennill clod gan flogiau yn yr UDA, Brasil, Sbaen, India, Portiwgal, a’r DU. Mae dylanwad bandiau megis Audioslave, Rage Against the Machine a Don Broco wedi cael effaith gadarnhaol arnynt ac oherwydd hyn mae Ffatri Jam yn asio roc caled gyda diwylliant ac ysbryd Gymreig - gan greu sain sy’n cynnig dim ymddiheuriad. Fel y dywedodd Jac Holloway o Gylchgrawn Noizze “In terms of their unique blend of hard rock and bilingual lyricism, there is no one like them, or at least no one is doing it quite as well as they are”

Yn dilyn rhyddhau eu EP cyntaf, 'Boddi', darlledwyd tair sengl o’r EP ar BBC Radio 1 Introducing Rock. Gwnaeth eu hail sengl, ‘Cyrff,’ hanes fel y trac Cymraeg cyntaf i ymddangos ar Planet Rock Radio, tra cyrhaeddodd eutrydedd sengl, ‘Geiriau Ffug,’ i rif 3 ar Siartiau 40 Uchaf Primordial Radio. Mae eu cerddoriaeth wedi cael eichwarae ar feysydd chwaraeon mawr yng Nghymru gan gynnwys Stadiwm Y Principality, Stadiwm Dinas Caerdydd, a Stok Chae Ras Wrecsam. Mae Ffatri Jam yn parhau i dorri tir newydd yn y sin roc Gymraeg, gan gyfuno cerddoriaeth egnïol â'u hymrwymiad i wthio ffiniau cerddoriaeth Gymraeg.

bottom of page