
Buddug
Buddug
Wedi tyfu i fyny yng nghysgod mynydd uchaf Cymru, mae gan Buddug enaid a dawn sy’n llawer hŷn na’i hoed – ac mae hi ond newydd droi’n 18 yn 2024. Mae ei gallu i ysgrifennu caneuon yn syfrdanol, ac ynghyd â’r cynhyrchydd Rich James Roberts, mae hi wedi creu caneuon pop hardd sy’n mynd yn ddyfnach na’r hyn rŷn ni’n ei ddisgwyl gan artist mor ifanc.
Wrth weithio tuag at ei halbwm Cymraeg cyntaf yn 2025, mae Buddug wedi cymryd blwyddyn allan o addysg i ddilyn ei breuddwyd o ennill bywoliaeth drwy gerddoriaeth – gyda albwm Saesneg ar y gorwel wedyn.
Mae ei band eisoes wedi chwarae rhai o wyliau cerddorol mwyaf Cymru, gan gynnwys Tafwyl yng Nghaerdydd a chynulleidfa orlawn yn Maes B – gŵyl gerddorol ieuenctid fwyaf y wlad.
Un i gadw llygad arni – mae Buddug wedi creu argraff gyda’i dawn fel canwr-gyfansoddwr a’i llais trawiadol. Mae’r sylfaen wedi’i gosod – ac mae hi ar fin camu’n fawr ymlaen.