
Bitw
Bitw
Cerddoriaeth mynyddol sci-fi. Fe darodd Cate Le Bon y hoelen ar ei phen pan ddywedodd – fel curadur gwadd y gyfres White Label ar label Joyful Noise – ei barn am Gruff ab Arwel, ar ôl datgelu ei gynnig pop gwych Bitw i’r byd.
Bellach, ac yn haeddiannol, mae Gruff – un o gerddorion gorau eu cysylltiadau yng Nghymru (fel aelod o fand syrff premiwm Eryri Y Niwl, ac wedi chwarae gyda Gruff Rhys, H. Hawkline, Eleanor Friedberger a Georgia Ruth) – yn rhyddhau’r dilyniant sydd wedi bod yn berwi ers tro. Rehearse yw gwers mewn derbyn sut i fynd gyda’r llif, ac yn brawf bod cadw cwmni da yn gallu bod yn eithriadol o werthfawr pan mae cynlluniau’n mynd o chwith – a sut y daw’r gerddoriaeth mwyaf eironig ac hawdd ei gwrando, yn aml, o le o anghysur.
Tra bo albwm cyntaf Bitw yn deillio o le o feddwl melys a myfyrdod – nid hiraeth, nac awydd i ail-greu’r gorffennol – mae Rehearse yn fyw ac yn bresennol: yn set o ganeuon a gafodd eu hysgrifennu yn yr union le a’r union amser, ac ni ddatgelodd yr albwm ei hunaniaeth hyd nes ei gwblhau, gan orfodi’r cymylau i symud o’r nefoedd i ddangos mai hon yw’r datganiad personolaf gan Gruff hyd yma.