
HMS
Morris
HMS Morris
HMS Morris yw band art-rock dwyieithog o Gaerdydd, sy’n cael ei arwain gan leisydd benywaidd ac wedi ennill sawl gwobr. Mae’n grŵp sy’n adnabyddus am eu gigs byw llawn lliw, creadigrwydd a theatrigrwydd – ac mae 2024 wedi bod yn flwyddyn fawr iddyn nhw. Fe wnaethon nhw berfformio pedwar gig yn SXSW yn Texas, cyflwyno un o uchafbwyntiau Gŵyl Green Man (wedi’i disgrifio fel un o’r eiliadau mwyaf cofiadwy), ac ennill eu trydydd enwebiad ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Cymru, gyda pherfformiad byw yn y seremoni.
Fe wnaethon nhw hefyd werthu allan eu gig lansio albwm yn Cultvr Dome, a chynnal tri thaith llawn dop ar gyfer eu halbwm a gafodd ganmoliaeth feirniadol a sawl enwebiad – Dollar Lizard Money Zombie (DLMZ). Mae hynny wedi cadarnhau eu lle fel un o garreg gongl y sîn gerddoriaeth yng Nghymru, ac un o’r bandiau Cymraeg mwyaf cyffrous i gadw llygad arnyn nhw ar lefel Brydeinig.
Gyda phob copi fainl a CD o DLMZ bellach wedi gwerthu allan, a chwarae cyson ar orsafau radio cenedlaethol a rhyngwladol – mae momentwm y band yn mynd o nerth i nerth.
Wedi’u llofnodi gan Bubblewrap Collective yng Nghaerdydd (Georgia Ruth, The Gentle Good, Carwyn Ellis), mae HMS Morris yn arbenigo mewn cyfuno hiwmor, myfyrdod, a theatr. Mae eu cerddoriaeth wedi’i ddisgrifio fel “pop arloesol a blaengar” (Earthly Pleasures), “rhyfedd ac yn brydferth” (Electronic Sound), ac “sain aml-ddimensiwn sy’n crwydro ardaloedd nas archwyd o’r blaen” (Clash).
Mae eu perfformiadau byw wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd – gan gynnwys yn Texas, Siapan a Chanada. Boed yn cefnogi artistiaid fel Tricot neu Songhoy Blues, neu’n chwarae’u setiau byw llawn llawenydd ac angoffadwy, mae HMS Morris yn dal i wthio ffiniau a chipio calonnau ledled y byd.
