
Melys
Melys
Band indie Cymraeg Melys gafodd ei ffurfio yn bentref Eryri, Betws-y-Coed, yn y nawdegau hwyr, ac aethon nhw’n syth ymlaen i lofnodi gyda label eiconig Cymreig, Ankst (Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci ac yn y blaen).
Cafodd y band sylw gan DJs fel Mark Radcliffe, Steve Lamacq, Mark Riley a John Peel ar Radio One, gyda chwarae yn ystod y dydd ac yn y nos, a nath hyn arwain at gytundeb mawr, lle agoron nhw stiwdio a label eu hunain. Dros y blynyddoedd, rhyddhawyd pedwar albwm stiwdio a ‘introducing album’ gafodd ei ryddhau yn Ewrop ac America.
Enillodd Melys wobr Gerddoriaeth Cymru yn 2002 am y perfformiad byw gorau, ac roedden nhw’n ffefrynnau mawr i DJ chwedlonol y BBC, John Peel. Recordion nhw 11 sesiwn BBC iddo, ac enillon nhw Festive 50 Peel yn 2001 gyda’r gân ‘Chinese Whispers’.
Ar ôl seibiant hir lle agorodd Andrea a Paul ambell i fwyty, a daeth Gary yn academydd ac yn ddarlithydd, mae’r band yn ôl yn brysur – wedi bod yn teithio ledled Prydain gyda’u ffrindiau The Wedding Present ac wedi rhyddhau albwm o sesiynau BBC (Vol.1) yn cynnwys sesiynau gyda Huw Stephens, John Peel ac Adam Walton.
Ar hyn o bryd, mae Melys yn y stiwdio ar Ynys Môn yn cymysgu albwm o ddeunydd newydd gyda’u hen gyfaill a chynhyrchydd Gorwel Owen (Super Furries, Gorkys, Gwenno ac ati). Mae’r sengl newydd ‘Santa Cruz’ wedi’i drefnu i’w rhyddhau ddechrau Rhagfyr, gyda’r albwm yn dilyn yn y gwanwyn 2025.
