
Pys Melyn
Pys Melyn
Pys Melyn - Ceiri, Siôn, Owain, Owain a Jac o Ben Llŷn, Gogledd Cymru. Rŷn ni wedi bod yn gigio ers 2014, ac yn 2018 wnaethon ni ddechrau rhyddhau senglau. Yn 2019, fe ffurfon ni Ski-Whiff Records, ac yn 2021 fe ryddhawon ni’n halbwm cyntaf, Bywyd Llonydd, oedd yn tynnu dylanwadau o bob cwr o’r byd ac a gafodd enwebiad am Wobr Gerddoriaeth Cymru.
Fe ryddhawon ni’n hail albwm, Bolmynydd, ym mis Awst 2023 – albwm oedd yn edrych fwy at ddylanwadau traddodiadol o’r 60au a’r 70au.
Ar ôl Bolmynydd, wnaethon ni deithio ledled Prydain a Llydaw, gan chwarae llefydd fel y Garage yn Llundain a Rough Trade, Bryste. Yn 2024, fe recordion ni sesiwn BBC 6Music i Riley a Coe, cefnogi Gruff Rhys ar ei daith Sadness Sets Me Free, a chwarae gyda Spiritualised yn Focus Wales ym mis Mai – ynghyd â llwyth o gigs penawdol a gwyliau dros yr haf.
Rŷn ni’n gobeithio rhyddhau cerddoriaeth newydd yn 2025, gyda’n trydydd albwm ar y gweill.
